Actau'r Apostolion 17:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwedi iddynt dramwy trwy Amffipolis ac Apolonia, hwy a ddaethant i Thesalonica, lle yr oedd synagog i'r Iddewon.

2. A Phaul, yn ôl ei arfer, a aeth i mewn atynt, a thros dri Saboth a ymresymodd â hwynt allan o'r ysgrythurau,

3. Gan egluro a dodi ger eu bronnau, mai rhaid oedd i Grist ddioddef, a chyfodi oddi wrth y meirw; ac mai hwn yw'r Crist Iesu, yr hwn yr wyf fi yn ei bregethu i chwi.

Actau'r Apostolion 17