21. Ac yn dysgu defodau, y rhai nid ydyw rydd i ni eu derbyn na'u gwneuthur, y rhai ydym Rufeinwyr.
22. A'r dyrfa a safodd i fyny ynghyd yn eu herbyn hwy; a'r swyddogion, gan rwygo eu dillad, a orchmynasant eu curo hwy â gwiail.
23. Ac wedi rhoddi gwialenodiau lawer iddynt, hwy a'u taflasant i garchar, gan orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwy yn ddiogel;
24. Yr hwn, wedi derbyn y cyfryw orchymyn, a'u bwriodd hwy i'r carchar nesaf i mewn, ac a wnaeth eu traed hwy yn sicr yn y cyffion.
25. Ac ar hanner nos Paul a Silas oedd yn gweddïo, ac yn canu mawl i Dduw: a'r carcharorion a'u clywsant hwy.
26. Ac yn ddisymwth y bu daeargryn mawr, hyd oni siglwyd seiliau'r carchar: ac yn ebrwydd yr holl ddrysau a agorwyd, a rhwymau pawb a aethant yn rhyddion.
27. A phan ddeffrôdd ceidwad y carchar, a chanfod drysau'r carchar yn agored, efe a dynnodd ei gleddyf, ac a amcanodd ei ladd ei hun; gan dybied ffoi o'r carcharorion ymaith.
28. Eithr Paul a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwed; canys yr ydym ni yma oll.
29. Ac wedi galw am olau, efe a ruthrodd i mewn, ac yn ddychrynedig efe a syrthiodd i lawr gerbron Paul a Silas,
30. Ac a'u dug hwynt allan, ac a ddywedodd, O feistriaid, beth sydd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf gadwedig?
31. A hwy a ddywedasant, Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi, ti a'th deulu.
32. A hwy a draethasant iddo air yr Arglwydd, ac i bawb oedd yn ei dŷ ef.
33. Ac efe a'u cymerth hwy yr awr honno o'r nos, ac a olchodd eu briwiau: ac efe a fedyddiwyd, a'r eiddo oll, yn y man.
34. Ac wedi iddo eu dwyn hwynt i'w dŷ, efe a osododd fwyd ger eu bron hwy, ac a fu lawen, gan gredu i Dduw, efe a'i holl deulu.
35. A phan aeth hi yn ddydd, y swyddogion a anfonasant y ceisiaid, gan ddywedyd, Gollwng ymaith y dynion hynny.
36. A cheidwad y carchar a fynegodd y geiriau hyn wrth Paul, Y swyddogion a anfonasant i'ch gollwng chwi ymaith: yn awr gan hynny cerddwch ymaith; ewch mewn heddwch.
37. Eithr Paul a ddywedodd wrthynt, Wedi iddynt ein curo yn gyhoedd heb ein barnu, a ninnau'n Rhufeinwyr, hwy a'n bwriasant ni i garchar; ac yn awr a ydynt hwy yn ein bwrw ni allan yn ddirgel? nid felly; ond deuant hwy eu hunain, a dygant ni allan.
38. A'r ceisiaid a fynegasant y geiriau hyn i'r swyddogion: a hwy a ofnasant, pan glywsant mai Rhufeiniaid oeddynt.
39. A hwy a ddaethant ac a atolygasant arnynt, ac a'u dygasant allan, ac a ddeisyfasant arnynt fyned allan o'r ddinas.