17. Hon a ddilynodd Paul a ninnau, ac a lefodd, gan ddywedyd, Y dynion hyn ydynt weision y Duw goruchaf, y rhai sydd yn mynegi i chwi ffordd iachawdwriaeth.
18. A hyn a wnaeth hi dros ddyddiau lawer. Eithr Paul yn flin ganddo, a drodd, ac a ddywedodd wrth yr ysbryd, Yr ydwyf yn gorchymyn i ti, yn enw Iesu Grist, fyned allan ohoni. Ac efe a aeth allan yr awr honno.
19. A phan welodd ei meistriaid hi fyned gobaith eu helw hwynt ymaith, hwy a ddaliasant Paul a Silas, ac a'u llusgasant hwy i'r farchnadfa, at y llywodraethwyr;
20. Ac a'u dygasant hwy at y swyddogion, ac a ddywedasant, Y mae'r dynion hyn, y rhai ydynt Iddewon, yn llwyr gythryblio ein dinas ni,
21. Ac yn dysgu defodau, y rhai nid ydyw rydd i ni eu derbyn na'u gwneuthur, y rhai ydym Rufeinwyr.
22. A'r dyrfa a safodd i fyny ynghyd yn eu herbyn hwy; a'r swyddogion, gan rwygo eu dillad, a orchmynasant eu curo hwy รข gwiail.
23. Ac wedi rhoddi gwialenodiau lawer iddynt, hwy a'u taflasant i garchar, gan orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwy yn ddiogel;