Actau'r Apostolion 16:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y daeth efe i Derbe ac i Lystra. Ac wele, yr oedd yno ryw ddisgybl, a'i enw Timotheus, mab i ryw wraig yr hon oedd Iddewes, ac yn credu; a'i dad oedd Roegwr:

2. Yr hwn oedd yn cael gair da gan y brodyr oedd yn Lystra, ac yn Iconium.

3. Paul a fynnai i hwn fyned allan gydag ef; ac efe a'i cymerth ac a'i henwaedodd ef, o achos yr Iddewon oedd yn y lleoedd hynny: canys hwy a wyddent bawb mai Groegwr oedd ei dad ef.

Actau'r Apostolion 16