1. Yna y daeth efe i Derbe ac i Lystra. Ac wele, yr oedd yno ryw ddisgybl, a'i enw Timotheus, mab i ryw wraig yr hon oedd Iddewes, ac yn credu; a'i dad oedd Roegwr:
2. Yr hwn oedd yn cael gair da gan y brodyr oedd yn Lystra, ac yn Iconium.
3. Paul a fynnai i hwn fyned allan gydag ef; ac efe a'i cymerth ac a'i henwaedodd ef, o achos yr Iddewon oedd yn y lleoedd hynny: canys hwy a wyddent bawb mai Groegwr oedd ei dad ef.
4. Ac fel yr oeddynt yn ymdaith trwy'r dinasoedd, hwy a roesant arnynt gadw'r gorchmynion a ordeiniesid gan yr apostolion a'r henuriaid y rhai oedd yn Jerwsalem.
5. Ac felly yr eglwysi a gadarnhawyd yn y ffydd, ac a gynyddasant mewn rhifedi beunydd.
6. Ac wedi iddynt dramwy trwy Phrygia, a gwlad Galatia, a gwarafun iddynt gan yr Ysbryd Glân bregethu'r gair yn Asia;
7. Pan ddaethant i Mysia, hwy a geisiasant fyned i Bithynia: ac ni oddefodd Ysbryd yr Iesu iddynt.
8. Ac wedi myned heibio i Mysia, hwy a aethant i waered i Droas.
9. A gweledigaeth a ymddangosodd i Paul liw nos: Rhyw ŵr o Facedonia a safai, ac a ddeisyfai arno, ac a ddywedai, Tyred drosodd i Facedonia, a chymorth ni.
10. A phan welodd efe y weledigaeth, yn ebrwydd ni a geisiasom fyned i Facedonia; gan gwbl gredu alw o'r Arglwydd nyni i efengylu iddynt hwy.
11. Am hynny, wedi myned ymaith o Droas, ni a gyrchasom yn union i Samothracia, a thrannoeth i Neapolis;
12. Ac oddi yno i Philipi, yr hon sydd brifddinas o barth o Facedonia, dinas rydd: ac ni a fuom yn aros yn y ddinas honno ddyddiau rai.
13. Ac ar y dydd Saboth ni a aethom allan o'r ddinas i lan afon, lle y byddid arferol o weddïo; ac ni a eisteddasom, ac a lefarasom wrth y gwragedd a ddaethant ynghyd.
14. A rhyw wraig a'i henw Lydia, un yn gwerthu porffor, o ddinas y Thyatiriaid, yr hon oedd yn addoli Duw, a wrandawodd; yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon, i ddal ar y pethau a leferid gan Paul.
15. Ac wedi ei bedyddio hi a'i theulu, hi a ddymunodd arnom, gan ddywedyd, Os barnasoch fy mod i'n ffyddlon i'r Arglwydd, deuwch i mewn i'm tŷ, ac arhoswch yno. A hi a'n cymhellodd ni.