Actau'r Apostolion 15:29-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. Bod i chwi ymgadw oddi wrth yr hyn a aberthwyd i eilunod, a gwaed, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac oddi wrth odineb: oddi wrth yr hyn bethau os ymgedwch, da y gwnewch. Byddwch iach.

30. Felly wedi eu gollwng hwynt ymaith, hwy a ddaethant i Antiochia: ac wedi cynnull y lliaws ynghyd, hwy a roesant y llythyr.

31. Ac wedi iddynt ei ddarllen, llawenychu a wnaethant am y diddanwch.

32. Jwdas hefyd a Silas, a hwythau yn broffwydi, trwy lawer o ymadrodd a ddiddanasant y brodyr, ac a'u cadarnhasant.

33. Ac wedi iddynt aros yno dros amser, hwy a ollyngwyd ymaith mewn heddwch, gan y brodyr, at yr apostolion.

34. Eithr gwelodd Silas yn dda aros yno.

35. A Phaul a Barnabas a arosasant yn Antiochia, gan ddysgu ac efengylu gair yr Arglwydd, gyda llawer eraill hefyd.

36. Ac wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, Dychwelwn, ac ymwelwn รข'n brodyr ym mhob dinas y pregethasom air yr Arglwydd ynddynt, i weled pa fodd y maent hwy.

37. A Barnabas a gynghorodd gymryd gyda hwynt Ioan, yr hwn a gyfenwid Marc.

Actau'r Apostolion 15