Actau'r Apostolion 14:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Adigwyddodd yn Iconium iddynt fyned ynghyd i synagog yr Iddewon, a llefaru felly, fel y credodd lliaws mawr o'r Iddewon ac o'r Groegwyr hefyd.

2. Ond yr Iddewon anghredadun a gyffroesant feddyliau'r Cenhedloedd, ac a'u gwnaethant yn ddrwg yn erbyn y brodyr.

3. Am hynny hwy a arosasant yno amser mawr, gan fod yn hy yn yr Arglwydd, yr hwn oedd yn dwyn tystiolaeth i air ei ras, ac yn cenhadu gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwy eu dwylo hwynt.

4. Eithr lliaws y ddinas a rannwyd: a rhai oedd gyda'r Iddewon, a rhai gyda'r apostolion.

5. A phan wnaethpwyd rhuthr gan y Cenhedloedd a'r Iddewon, ynghyd รข'u llywodraethwyr, i'w hamherchi hwy, ac i'w llabyddio,

Actau'r Apostolion 14