Actau'r Apostolion 14:1-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Adigwyddodd yn Iconium iddynt fyned ynghyd i synagog yr Iddewon, a llefaru felly, fel y credodd lliaws mawr o'r Iddewon ac o'r Groegwyr hefyd.

2. Ond yr Iddewon anghredadun a gyffroesant feddyliau'r Cenhedloedd, ac a'u gwnaethant yn ddrwg yn erbyn y brodyr.

3. Am hynny hwy a arosasant yno amser mawr, gan fod yn hy yn yr Arglwydd, yr hwn oedd yn dwyn tystiolaeth i air ei ras, ac yn cenhadu gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwy eu dwylo hwynt.

4. Eithr lliaws y ddinas a rannwyd: a rhai oedd gyda'r Iddewon, a rhai gyda'r apostolion.

5. A phan wnaethpwyd rhuthr gan y Cenhedloedd a'r Iddewon, ynghyd â'u llywodraethwyr, i'w hamherchi hwy, ac i'w llabyddio,

6. Hwythau a ddeallasant hyn, ac a ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd o Lycaonia, ac i'r wlad oddi amgylch:

7. Ac yno y buant yn efengylu.

8. Ac yr oedd gŵr yn eistedd yn Lystra yn ddiffrwyth ei draed, yr hwn oedd gloff o groth ei fam, ac ni rodiasai erioed.

9. Hwn a glybu Paul yn llefaru, yr hwn wrth edrych yn graff arno, a gweled fod ganddo ffydd i gael iechyd,

10. A ddywedodd â llef uchel, Saf ar dy draed yn union. Ac efe a neidiodd i fyny, ac a rodiodd.

11. A phan welodd y bobloedd y peth a wnaethai Paul, hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd yn iaith Lycaonia, Y duwiau yn rhith dynion a ddisgynasant atom.

12. A hwy a alwasant Barnabas yn Jwpiter; a Phaul yn Mercurius, oblegid efe oedd yr ymadroddwr pennaf.

13. Yna offeiriad Jwpiter, yr hwn oedd o flaen eu dinas, a ddug deirw a garlantau i'r pyrth, ac a fynasai gyda'r bobl aberthu.

14. A'r apostolion Barnabas a Phaul, pan glywsant hynny, a rwygasant eu dillad, ac a neidiasant ymhlith y bobl, gan lefain,

15. A dywedyd, Ha wŷr, paham y gwnewch chwi'r pethau hyn? dynion hefyd ydym ninnau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi ar i chwi droi oddi wrth y pethau gweigion yma at Dduw byw, yr hwn a wnaeth nef a daear, a'r môr, a'r holl bethau sydd ynddynt:

16. Yr hwn yn yr oesoedd gynt a oddefodd i'r holl genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain.

17. Er hynny ni adawodd efe mohono ei hun yn ddi‐dyst, gan wneuthur daioni, a rhoddi glaw o'r nefoedd i ni, a thymhorau ffrwythlon, a llenwi ein calonnau ni â lluniaeth ac â llawenydd.

18. Ac er dywedyd y pethau hyn, braidd yr ataliasant y bobl rhag aberthu iddynt.

Actau'r Apostolion 14