Actau'r Apostolion 13:49-52 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

49. A gair yr Arglwydd a daenwyd trwy'r holl wlad.

50. A'r Iddewon a anogasant y gwragedd crefyddol ac anrhydeddus, a phenaethiaid y ddinas, ac a godasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, ac a'u bwriasant hwy allan o'u terfynau.

51. Eithr hwy a ysgydwasant y llwch oddi wrth eu traed yn eu herbyn hwynt, ac a ddaethant i Iconium.

52. A'r disgyblion a gyflawnwyd o lawenydd, ac o'r Ysbryd Glân.

Actau'r Apostolion 13