Actau'r Apostolion 13:17-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Duw y bobl hyn Israel a etholodd ein tadau ni, ac a ddyrchafodd y bobl, pan oeddynt yn ymdeithio yng ngwlad yr Aifft, ac â braich uchel y dug efe hwynt oddi yno allan.

18. Ac ynghylch deugain mlynedd o amser y goddefodd efe eu harferion hwynt yn yr anialwch.

19. Ac wedi iddo ddinistrio saith genedl yn nhir Canaan, â choelbren y parthodd efe dir y rhai hynny iddynt hwy.

20. Ac wedi'r pethau hyn, dros ysbaid ynghylch pedwar cant a deng mlynedd a deugain, efe a roddes farnwyr iddynt, hyd Samuel y proffwyd.

21. Ac ar ôl hynny y dymunasant gael brenin: ac fe a roddes Duw iddynt Saul mab Cis, gŵr o lwyth Benjamin, ddeugain mlynedd.

22. Ac wedi ei ddiswyddo ef, y cyfododd efe Dafydd yn frenin iddynt; am yr hwn y tystiolaethodd, ac y dywedodd, Cefais Dafydd mab Jesse, gŵr yn ôl fy nghalon, yr hwn a gyflawna fy holl ewyllys.

23. O had hwn, Duw, yn ôl ei addewid, a gyfododd i Israel yr Iachawdwr Iesu:

24. Gwedi i Ioan ragbregethu o flaen ei ddyfodiad ef i mewn, fedydd edifeirwch i holl bobl Israel.

Actau'r Apostolion 13