Actau'r Apostolion 12:21-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Ac ar ddydd nodedig, Herod, gwedi gwisgo dillad brenhinol, a eisteddodd ar orseddfainc, ac a areithiodd wrthynt.

22. A'r bobl a roes floedd, Lleferydd Duw, ac nid dyn ydyw.

23. Ac allan o law y trawodd angel yr Arglwydd ef, am na roesai'r gogoniant i Dduw: a chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd.

24. A gair Duw a gynyddodd ac a amlhaodd.

25. A Barnabas a Saul, wedi cyflawni eu gweinidogaeth, a ddychwelasant o Jerwsalem, gan gymryd gyda hwynt Ioan hefyd, yr hwn a gyfenwid Marc.

Actau'r Apostolion 12