Actau'r Apostolion 10:28-45 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mai anghyfreithlon yw i ŵr o Iddew ymwasgu neu ddyfod at alltud: eithr Duw a ddangosodd i mi na alwn neb yn gyffredin neu yn aflan.

29. O ba herwydd, ie, yn ddi‐nag, y deuthum, pan anfonwyd amdanaf: yr wyf gan hynny yn gofyn am ba achos y danfonasoch amdanaf.

30. A Chornelius a ddywedodd, Er ys pedwar diwrnod i'r awr hon o'r dydd yr oeddwn yn ymprydio, ac ar y nawfed awr yn gweddïo yn fy nhŷ: ac wele, safodd gŵr ger fy mron mewn gwisg ddisglair,

31. Ac a ddywedodd, Cornelius, gwrandawyd dy weddi di, a'th elusennau a ddaethant mewn coffa gerbron Duw.

32. Am hynny anfon i Jopa, a galw am Simon, yr hwn a gyfenwir Pedr: y mae efe yn lletya yn nhŷ Simon, barcer, yng nglan y môr; yr hwn, pan ddelo atat, a lefara wrthyt.

33. Am hynny yn ddi‐oed myfi a anfonais atat; a thi a wnaethost yn dda ddyfod. Yr awron, gan hynny, yr ŷm ni oll yn bresennol gerbron Duw, i wrando'r holl bethau a orchmynnwyd i ti gan Dduw.

34. Yna yr agorodd Pedr ei enau, ac a ddywedodd, Yr wyf yn deall mewn gwirionedd, nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb:

35. Ond ym mhob cenedl, y neb sydd yn ei ofni ef, ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymeradwy ganddo ef.

36. Y gair yr hwn a anfonodd Duw i blant Israel, gan bregethu tangnefedd trwy Iesu Grist: (efe yw Arglwydd pawb oll:)

37. Chwychwi a wyddoch y gair a fu yn holl Jwdea, gan ddechrau o Galilea, wedi'r bedydd a bregethodd Ioan:

38. Y modd yr eneiniodd Duw Iesu o Nasareth â'r Ysbryd Glân, ac â nerth; yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni, ac iacháu pawb a'r oedd wedi eu gorthrymu gan ddiafol: oblegid yr oedd Duw gydag ef.

39. A ninnau ydym dystion o'r pethau oll a wnaeth efe yng ngwlad yr Iddewon, ac yn Jerwsalem; yr hwn a laddasant, ac a groeshoeliasant ar bren:

40. Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a'i rhoddes ef i'w wneuthur yn amlwg;

41. Nid i'r bobl oll, eithr i'r tystion etholedig o'r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytasom ac a yfasom gydag ef wedi ei atgyfodi ef o feirw.

42. Ac efe a orchmynnodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolaethu, mai efe yw'r hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw.

43. I hwn y mae'r holl broffwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef.

44. A Phedr eto yn llefaru'r geiriau hyn, syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bawb a oedd yn clywed y gair.

45. A'r rhai o'r enwaediad a oeddynt yn credu, cynifer ag a ddaethent gyda Phedr, a synasant, am dywallt dawn yr Ysbryd Glân ar y Cenhedloedd hefyd.

Actau'r Apostolion 10