2. Gŵr defosiynol, ac yn ofni Duw, ynghyd â'i holl dŷ, ac yn gwneuthur llawer o elusennau i'r bobl, ac yn gweddïo Duw yn wastadol.
3. Efe a welodd mewn gweledigaeth yn eglur, ynghylch y nawfed awr o'r dydd, angel Duw yn dyfod i mewn ato, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius.
4. Ac wedi iddo graffu arno, a myned yn ofnus, efe a ddywedodd, Beth sydd, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy weddïau di a'th elusennau a ddyrchafasant yn goffadwriaeth gerbron Duw.
5. Ac yn awr anfon wŷr i Jopa, a gyr am Simon, yr hwn a gyfenwir Pedr:
6. Y mae efe yn lletya gydag un Simon, barcer; tŷ'r hwn sydd wrth y môr: efe a ddywed i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur.
7. A phan ymadawodd yr angel oedd yn ymddiddan â Chornelius, efe a alwodd ar ddau o dylwyth ei dŷ, a milwr defosiynol o'r rhai oedd yn aros gydag ef:
8. Ac wedi iddo fynegi iddynt y cwbl, efe a'u hanfonodd hwynt i Jopa.
9. A thrannoeth, fel yr oeddynt hwy yn ymdeithio, ac yn nesáu at y ddinas, Pedr a aeth i fyny ar y tŷ i weddïo, ynghylch y chweched awr.
10. Ac fe ddaeth arno newyn mawr, ac efe a chwenychai gael bwyd. Ac a hwynt yn paratoi iddo, fe syrthiodd arno lewyg:
11. Ac efe a welai y nef yn agored, a rhyw lestr yn disgyn arno, fel llenlliain fawr, wedi rhwymo ei phedair congl, a'i gollwng i waered hyd y ddaear: