16. A hyn a wnaed dair gwaith: a'r llestr a dderbyniwyd drachefn i fyny i'r nef.
17. Ac fel yr oedd Pedr yn amau ynddo'i hun beth oedd y weledigaeth a welsai; wele, y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius, wedi ymofyn am dŷ Simon, oeddynt yn sefyll wrth y porth.
18. Ac wedi iddynt alw, hwy a ofynasant a oedd Simon, yr hwn a gyfenwid Pedr, yn lletya yno.
19. Ac fel yr oedd Pedr yn meddwl am y weledigaeth, dywedodd yr Ysbryd wrtho, Wele dri wŷr yn dy geisio di.
20. Am hynny cyfod, disgyn, a dos gyda hwynt, heb amau dim: oherwydd myfi a'u hanfonais hwynt.
21. A Phedr, wedi disgyn at y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius ato, a ddywedodd, Wele, myfi yw'r hwn yr ydych chwi yn ei geisio: beth yw yr achos y daethoch o'i herwydd?
22. Hwythau a ddywedasant, Cornelius y canwriad, gŵr cyfiawn, ac yn ofni Duw, ac â gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd gan angel sanctaidd, i ddanfon amdanat ti i'w dŷ, ac i wrando geiriau gennyt.
23. Am hynny efe a'u galwodd hwynt i mewn, ac a'u lletyodd hwy. A thrannoeth yr aeth Pedr ymaith gyda hwy, a rhai o'r brodyr o Jopa a aeth gydag ef.
24. A thrannoeth yr aethant i mewn i Cesarea. Ac yr oedd Cornelius yn disgwyl amdanynt; ac efe a alwasai ei geraint a'i annwyl gyfeillion ynghyd.
25. Ac fel yr oedd Pedr yn dyfod i mewn, Cornelius a gyfarfu ag ef, ac a syrthiodd wrth ei draed, ac a'i haddolodd ef.
26. Eithr Pedr a'i cyfododd ef i fyny, gan ddywedyd, Cyfod; dyn wyf finnau hefyd.
27. A than ymddiddan ag ef, efe a ddaeth i mewn, ac a gafodd lawer wedi ymgynnull ynghyd.
28. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mai anghyfreithlon yw i ŵr o Iddew ymwasgu neu ddyfod at alltud: eithr Duw a ddangosodd i mi na alwn neb yn gyffredin neu yn aflan.
29. O ba herwydd, ie, yn ddi‐nag, y deuthum, pan anfonwyd amdanaf: yr wyf gan hynny yn gofyn am ba achos y danfonasoch amdanaf.
30. A Chornelius a ddywedodd, Er ys pedwar diwrnod i'r awr hon o'r dydd yr oeddwn yn ymprydio, ac ar y nawfed awr yn gweddïo yn fy nhŷ: ac wele, safodd gŵr ger fy mron mewn gwisg ddisglair,