Actau'r Apostolion 1:24-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. A chan weddïo, hwy a ddywedasant, Tydi, Arglwydd, yr hwn a wyddost galonnau pawb, dangos pa un o'r ddau hyn a etholaist,

25. I dderbyn rhan o'r weinidogaeth hon, a'r apostoliaeth, o'r hon y cyfeiliornodd Jwdas, i fyned i'w le ei hun.

26. A hwy a fwriasant eu coelbrennau hwynt: ac ar Matheias y syrthiodd y coelbren; ac efe a gyfrifwyd gyda'r un apostol ar ddeg.

Actau'r Apostolion 1