2 Timotheus 4:9-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Bydd ddyfal i ddyfod ataf yn ebrwydd:

10. Canys Demas a'm gadawodd, gan garu'r byd presennol, ac a aeth ymaith i Thesalonica; Crescens i Galatia, Titus i Dalmatia.

11. Luc yn unig sydd gyda mi. Cymer Marc, a dwg gyda thi: canys buddiol yw efe i mi i'r weinidogaeth.

12. Tychicus hefyd a ddanfonais i Effesus.

13. Y cochl a adewais i yn Nhroas gyda Carpus, pan ddelych, dwg gyda thi, a'r llyfrau, yn enwedig y memrwn.

14. Alexander y gof copr a wnaeth i mi ddrygau lawer: taled yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd:

15. Yr hwn hefyd gochel dithau; canys efe a safodd yn ddirfawr yn erbyn ein hymadroddion ni.

16. Yn fy ateb cyntaf ni safodd neb gyda mi, eithr pawb a'm gadawsant: mi a archaf ar Dduw nas cyfrifer iddynt.

17. Eithr yr Arglwydd a safodd gyda mi, ac a'm nerthodd; fel trwof fi y byddai'r pregethiad yn llawn hysbys, ac y clywai'r holl Genhedloedd: ac mi a waredwyd o enau y llew.

2 Timotheus 4