16. Yn fy ateb cyntaf ni safodd neb gyda mi, eithr pawb a'm gadawsant: mi a archaf ar Dduw nas cyfrifer iddynt.
17. Eithr yr Arglwydd a safodd gyda mi, ac a'm nerthodd; fel trwof fi y byddai'r pregethiad yn llawn hysbys, ac y clywai'r holl Genhedloedd: ac mi a waredwyd o enau y llew.
18. A'r Arglwydd a'm gwared i rhag pob gweithred ddrwg, ac a'm ceidw i'w deyrnas nefol: i'r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
19. Annerch Prisca ac Acwila, a theulu Onesifforus.
20. Erastus a arhosodd yng Nghorinth: ond Troffimus a adewais ym Miletus yn glaf.
21. Bydd ddyfal i ddyfod cyn y gaeaf. Y mae Eubulus yn dy annerch, a Phudens, a Linus, a Chlaudia, a'r brodyr oll.
22. Yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda'th ysbryd di. Gras fyddo gyda chwi. Amen.Yr ail epistol at Timotheus, yr esgob cyntaf a ddewiswyd ar eglwys yr Effesiaid, a ysgrifennwyd o Rufain, pan ddygwyd Paul yr ail waith gerbron Cesar Nero.