12. Tychicus hefyd a ddanfonais i Effesus.
13. Y cochl a adewais i yn Nhroas gyda Carpus, pan ddelych, dwg gyda thi, a'r llyfrau, yn enwedig y memrwn.
14. Alexander y gof copr a wnaeth i mi ddrygau lawer: taled yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd:
15. Yr hwn hefyd gochel dithau; canys efe a safodd yn ddirfawr yn erbyn ein hymadroddion ni.
16. Yn fy ateb cyntaf ni safodd neb gyda mi, eithr pawb a'm gadawsant: mi a archaf ar Dduw nas cyfrifer iddynt.
17. Eithr yr Arglwydd a safodd gyda mi, ac a'm nerthodd; fel trwof fi y byddai'r pregethiad yn llawn hysbys, ac y clywai'r holl Genhedloedd: ac mi a waredwyd o enau y llew.
18. A'r Arglwydd a'm gwared i rhag pob gweithred ddrwg, ac a'm ceidw i'w deyrnas nefol: i'r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.