1. Yr ydwyf fi gan hynny yn gorchymyn gerbron Duw, a'r Arglwydd Iesu Grist, yr hwn a farna'r byw a'r meirw yn ei ymddangosiad a'i deyrnas;
2. Pregetha'r gair; bydd daer mewn amser, allan o amser; argyhoedda, cerydda, annog gyda phob hirymaros ac athrawiaeth.
3. Canys daw'r amser pryd na ddioddefont athrawiaeth iachus; eithr yn ôl eu chwantau eu hunain y pentyrrant iddynt eu hunain athrawon, gan fod eu clustiau yn merwino;
4. Ac oddi wrth y gwirionedd y troant ymaith eu clustiau, ac at chwedlau y troant.
5. Eithr gwylia di ym mhob peth, dioddef adfyd, gwna waith efengylwr, cyflawna dy weinidogaeth.