2 Timotheus 2:9-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd hyd rwymau, fel drwgweithredwr; eithr gair Duw nis rhwymir.

10. Am hynny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y gallont hwythau gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragwyddol.

11. Gwir yw'r gair: Canys os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef:

12. Os dioddefwn, ni a deyrnaswn gydag ef: os gwadwn ef, yntau hefyd a'n gwad ninnau:

2 Timotheus 2