2 Timotheus 2:15-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Bydd ddyfal i'th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr di-fefl, yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd.

16. Ond halogedig ofer-sain, gochel, canys cynyddu a wnânt i fwy o annuwioldeb.

17. A'u hymadrodd hwy a ysa fel cancr: ac o'r cyfryw rai y mae Hymeneus a Philetus;

18. Y rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd ddarfod yr atgyfodiad eisoes; ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai.

2 Timotheus 2