2 Timotheus 2:14-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Dwg y pethau hyn ar gof, gan orchymyn gerbron yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr.

15. Bydd ddyfal i'th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr di-fefl, yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd.

16. Ond halogedig ofer-sain, gochel, canys cynyddu a wnânt i fwy o annuwioldeb.

2 Timotheus 2