2 Timotheus 2:11-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Gwir yw'r gair: Canys os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef:

12. Os dioddefwn, ni a deyrnaswn gydag ef: os gwadwn ef, yntau hefyd a'n gwad ninnau:

13. Os ŷm ni heb gredu, eto y mae efe yn aros yn ffyddlon: nis gall efe ei wadu ei hun.

14. Dwg y pethau hyn ar gof, gan orchymyn gerbron yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr.

15. Bydd ddyfal i'th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr di-fefl, yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd.

16. Ond halogedig ofer-sain, gochel, canys cynyddu a wnânt i fwy o annuwioldeb.

17. A'u hymadrodd hwy a ysa fel cancr: ac o'r cyfryw rai y mae Hymeneus a Philetus;

18. Y rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd ddarfod yr atgyfodiad eisoes; ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai.

19. Eithr y mae cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo'r sêl hon: Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef: a, Pob un sydd yn enwi enw Crist, ymadawed oddi wrth anghyfiawnder.

20. Eithr mewn tŷ mawr nid oes yn unig lestri o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd; a rhai i barch, a rhai i amarch.

21. Pwy bynnag gan hynny a'i glanhao ei hun oddi wrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn gymwys i'r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda.

22. Ond chwantau ieuenctid, ffo oddi wrthynt: a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda'r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur.

23. Eithr gochel ynfyd ac annysgedig gwestiynau, gan wybod eu bod yn magu ymrysonau.

2 Timotheus 2