2 Timotheus 2:10-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Am hynny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y gallont hwythau gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragwyddol.

11. Gwir yw'r gair: Canys os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef:

12. Os dioddefwn, ni a deyrnaswn gydag ef: os gwadwn ef, yntau hefyd a'n gwad ninnau:

13. Os ŷm ni heb gredu, eto y mae efe yn aros yn ffyddlon: nis gall efe ei wadu ei hun.

14. Dwg y pethau hyn ar gof, gan orchymyn gerbron yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr.

15. Bydd ddyfal i'th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr di-fefl, yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd.

2 Timotheus 2