16. Rhodded yr Arglwydd drugaredd i dŷ Onesifforus; canys efe a'm llonnodd i yn fynych, ac nid oedd gywilydd ganddo fy nghadwyn i:
17. Eithr pan oedd yn Rhufain, efe a'm ceisiodd yn ddiwyd iawn, ac a'm cafodd.
18. Rhodded yr Arglwydd iddo gael trugaredd gan yr Arglwydd yn y dydd hwnnw: a maint a wnaeth efe o wasanaeth yn Effesus, gorau y gwyddost ti.