2 Timotheus 1:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, yn ôl addewid y bywyd, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu,

2. At Timotheus, fy mab annwyl: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, a Crist Iesu ein Harglwydd.

3. Y mae gennyf ddiolch i Dduw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu o'm rhieni â chydwybod bur, mor ddi-baid y mae gennyf goffa amdanat ti yn fy ngweddïau nos a dydd;

4. Gan fawr ewyllysio dy weled, gan gofio dy ddagrau, fel y'm llanwer o lawenydd;

2 Timotheus 1