2 Thesaloniaid 3:14-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Ond od oes neb heb ufuddhau i'n gair trwy y llythyr yma, hysbyswch hwnnw; ac na fydded i chwi gymdeithas ag ef, megis y cywilyddio efe.

15. Er hynny na chymerwch ef megis gelyn, eithr cynghorwch ef fel brawd.

16. Ac Arglwydd y tangnefedd ei hun a roddo i chwi dangnefedd yn wastadol ym mhob modd. Yr Arglwydd a fyddo gyda chwi oll.

17. Yr annerch รข'm llaw i Paul fy hun; yr hyn sydd arwydd ym mhob epistol: fel hyn yr ydwyf yn ysgrifennu.

18. Gras ein Harglwydd Iesu Grist gyda chwi oll. Amen.Yr ail at y Thesaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.

2 Thesaloniaid 3