2 Thesaloniaid 3:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Bellach, frodyr, gweddïwch drosom ni, ar fod i air yr Arglwydd redeg, a chael gogonedd, megis gyda chwithau;

2. Ac ar ein gwared ni oddi wrth ddynion anhywaith a drygionus: canys nid oes ffydd gan bawb.

3. Eithr ffyddlon yw'r Arglwydd, yr hwn a'ch sicrha chwi, ac a'ch ceidw rhag drwg.

4. Ac y mae gennym hyder yn yr Arglwydd amdanoch, eich bod yn gwneuthur, ac y gwnewch, y pethau yr ydym yn eu gorchymyn i chwi.

5. A'r Arglwydd a gyfarwyddo eich calonnau chwi at gariad Duw, ac i ymaros am Grist.

6. Ac yr ydym yn gorchymyn i chwi, frodyr, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, dynnu ohonoch ymaith oddi wrth bob brawd a'r sydd yn rhodio yn afreolus, ac nid yn ôl y traddodiad a dderbyniodd efe gennym ni.

7. Canys chwi a wyddoch eich hunain pa fodd y dylech ein dilyn ni: oblegid ni buom afreolus yn eich plith chwi;

8. Ac ni fwytasom fara neb yn rhad; ond trwy weithio mewn llafur a lludded, nos a dydd, fel na phwysem ar neb ohonoch chwi;

9. Nid oherwydd nad oes gennym awdurdod, ond fel y'n rhoddem ein hunain yn siampl i chwi i'n dilyn.

2 Thesaloniaid 3