2 Thesaloniaid 3:1-2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Bellach, frodyr, gweddïwch drosom ni, ar fod i air yr Arglwydd redeg, a chael gogonedd, megis gyda chwithau;

2. Ac ar ein gwared ni oddi wrth ddynion anhywaith a drygionus: canys nid oes ffydd gan bawb.

2 Thesaloniaid 3