2 Samuel 8:4-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A Dafydd a enillodd oddi arno ef fil o gerbydau, a saith gant o farchogion, ac ugain mil o wŷr traed: a thorrodd Dafydd linynnau gar meirch pob cerbyd, ac efe a adawodd ohonynt gan cerbyd.

5. A phan ddaeth y Syriad o Damascus, i gynorthwyo Hadadeser brenin Soba, Dafydd a laddodd o'r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr.

6. A Dafydd a osododd swyddogion yn Syria Damascus; a'r Syriaid a fuant weision i Dafydd, yn dwyn treth. A'r Arglwydd a gadwodd Dafydd ym mha le bynnag yr aeth efe.

7. Dafydd hefyd a gymerth y tarianau aur oedd gan weision Hadadeser, ac a'u dug hwynt i Jerwsalem.

2 Samuel 8