7. Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl feibion Israel, a yngenais i air wrth un o lwythau Israel, i'r rhai y gorchmynnais borthi fy mhobl Israel, gan ddywedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd?
8. Ac yn awr fel hyn y dywedi wrth fy ngwas Dafydd; Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Myfi a'th gymerais di o'r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yn flaenor ar fy mhobl, ar Israel.
9. A bûm gyda thi ym mha le bynnag y rhodiaist; torrais ymaith hefyd dy holl elynion di o'th flaen, a gwneuthum enw mawr i ti, megis enw y rhai mwyaf ar y ddaear.
10. Gosodaf hefyd i'm pobl Israel le; a phlannaf ef, fel y trigo efe yn ei le ei hun, ac na symudo mwyach: a meibion anwiredd ni chwanegant ei gystuddio ef, megis cynt;
11. Sef er y dydd yr ordeiniais i farnwyr ar fy mhobl Israel, ac y rhoddais lonyddwch i ti oddi wrth dy holl elynion. A'r Arglwydd sydd yn mynegi i ti, y gwna efe dŷ i ti.
12. A phan gyflawner dy ddyddiau di, a huno ohonot gyda'th dadau, mi a gyfodaf dy had di ar dy ôl, yr hwn a ddaw allan o'th ymysgaroedd di, a mi a gadarnhaf ei frenhiniaeth ef.
13. Efe a adeilada dŷ i'm henw i; minnau a gadarnhaf orseddfainc ei frenhiniaeth ef byth.
14. Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab. Os trosedda efe, mi a'i ceryddaf â gwialen ddynol, ac â dyrnodiau meibion dynion:
15. Ond fy nhrugaredd nid ymedy ag ef, megis ag y tynnais hi oddi wrth Saul, yr hwn a fwriais ymaith o'th flaen di.
16. A'th dŷ di a sicrheir, a'th frenhiniaeth, yn dragywydd o'th flaen di: dy orseddfainc a sicrheir byth.
17. Yn ôl yr holl eiriau hyn, ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd.
18. Yna yr aeth y brenin Dafydd i mewn, ac a eisteddodd gerbron yr Arglwydd: ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O Arglwydd Dduw? a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma?
19. Ac eto bychan oedd hyn yn dy olwg di, O Arglwydd Dduw; ond ti a leferaist hefyd am dŷ dy was dros hir amser: ai dyma arfer dyn, O Arglwydd Dduw?
20. A pha beth mwyach a ddywed Dafydd ychwaneg wrthyt? canys ti a adwaenost dy was, O Arglwydd Dduw.
21. Er mwyn dy air di, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i beri i'th was eu gwybod.
22. Am hynny y'th fawrhawyd, O Arglwydd Dduw; canys nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw onid ti, yn ôl yr hyn oll a glywsom ni â'n clustiau.