2 Samuel 6:17-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. A hwy a ddygasant i mewn arch yr Arglwydd, ac a'i gosodasant yn ei lle, yng nghanol y babell, yr hon a osodasai Dafydd iddi. A Dafydd a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr Arglwydd.

18. Ac wedi gorffen o Dafydd offrymu poethoffrwm ac offrymau hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw Arglwydd y lluoedd.

19. Ac efe a rannodd i'r holl bobl, sef i holl dyrfa Israel, yn ŵr ac yn wraig, i bob un deisen o fara, ac un dryll o gig, ac un gostrelaid o win. Felly yr aeth yr holl bobl bawb i'w dŷ ei hun.

20. Yna y dychwelodd Dafydd i fendigo ei dŷ: a Michal merch Saul a ddaeth i gyfarfod Dafydd; ac a ddywedodd, O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yr hwn a ymddiosgodd heddiw yng ngŵydd llawforynion ei weision, fel yr ymddiosgai un o'r ynfydion gan ymddiosg.

21. A dywedodd Dafydd wrth Michal, Gerbron yr Arglwydd, yr hwn a'm dewisodd i o flaen dy dad di, ac o flaen ei holl dŷ ef, gan orchymyn i mi fod yn flaenor ar bobl yr Arglwydd, ar Israel, y chwaraeais: a mi a chwaraeaf gerbron yr Arglwydd.

22. Byddaf eto waelach na hyn, a byddaf ddirmygus yn fy ngolwg fy hun: a chyda'r llawforynion, am y rhai y dywedaist wrthyf, y'm gogoneddir.

23. Am hynny i Michal merch Saul ni bu etifedd hyd ddydd ei marwolaeth.

2 Samuel 6