14. A Dafydd a ddawnsiodd â'i holl egni gerbron yr Arglwydd; a Dafydd oedd wedi ymwregysu ag effod liain.
15. Felly Dafydd a holl dŷ Israel a ddygasant i fyny arch yr Arglwydd, trwy floddest, a sain utgorn.
16. Ac fel yr oedd arch yr Arglwydd yn dyfod i mewn i ddinas Dafydd, yna Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu'r brenin Dafydd yn neidio, ac yn llemain o flaen yr Arglwydd; a hi a'i dirmygodd ef yn ei chalon.
17. A hwy a ddygasant i mewn arch yr Arglwydd, ac a'i gosodasant yn ei lle, yng nghanol y babell, yr hon a osodasai Dafydd iddi. A Dafydd a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr Arglwydd.
18. Ac wedi gorffen o Dafydd offrymu poethoffrwm ac offrymau hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw Arglwydd y lluoedd.
19. Ac efe a rannodd i'r holl bobl, sef i holl dyrfa Israel, yn ŵr ac yn wraig, i bob un deisen o fara, ac un dryll o gig, ac un gostrelaid o win. Felly yr aeth yr holl bobl bawb i'w dŷ ei hun.