2 Samuel 5:12-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A gwybu Dafydd i'r Arglwydd ei sicrhau ef yn frenin ar Israel, a dyrchafu ohono ei frenhiniaeth ef er mwyn ei bobl Israel.

13. A Dafydd a gymerodd eto ordderchwragedd a gwragedd o Jerwsalem, wedi iddo ddyfod o Hebron: a ganwyd eto i Dafydd feibion a merched.

14. A dyma enwau y rhai a anwyd iddo ef yn Jerwsalem; Sammua, a Sobab, a Nathan, a Solomon,

15. Ibhar hefyd, ac Elisua, a Neffeg, a Jaffia,

2 Samuel 5