24. A Joab a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, Beth a wnaethost ti? wele, daeth Abner atat ti; paham y gollyngaist ef i fyned ymaith?
25. Ti a adwaenit Abner mab Ner, mai i'th dwyllo di y daeth efe, ac i wybod dy fynediad allan, a'th ddyfodiad i mewn, ac i wybod yr hyn oll yr wyt ti yn ei wneuthur.
26. A Joab a aeth allan oddi wrth Dafydd, ac a anfonodd genhadau ar ôl Abner; a hwy a'i dygasant ef yn ôl oddi wrth ffynnon Sira, heb wybod i Dafydd.
27. A phan ddychwelodd Abner i Hebron, Joab a'i trodd ef o'r neilltu yn y porth, i ymddiddan ag ef mewn heddwch; ac a'i trawodd ef yno dan y bumed ais, fel y bu efe farw, oherwydd gwaed Asahel ei frawd ef.
28. Ac wedi hynny y clybu Dafydd, ac y dywedodd, Dieuog ydwyf fi a'm brenhiniaeth gerbron yr Arglwydd byth, oddi wrth waed Abner mab Ner:
29. Syrthied ar ben Joab, ac ar holl dŷ ei dad ef: fel na phallo fod un o dŷ Joab yn ddiferllyd, neu yn wahanglwyfus, neu yn ymgynnal wrth fagl, neu yn syrthio ar gleddyf, neu mewn eisiau bara.
30. Felly Joab ac Abisai ei frawd ef a laddasant Abner, oherwydd lladd ohono ef Asahel eu brawd hwynt mewn rhyfel yn Gibeon.
31. A Dafydd a ddywedodd wrth Joab, ac wrth yr holl bobl oedd gydag ef, Rhwygwch eich dillad, ac ymwregyswch mewn sachliain, a galerwch o flaen Abner. A'r brenin Dafydd oedd yn myned ar ôl yr elor.
32. A hwy a gladdasant Abner yn Hebron. A'r brenin a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd wrth fedd Abner; a'r holl bobl a wylasant.
33. A'r brenin a alarnadodd am Abner, ac a ddywedodd, Ai fel y mae yr ynfyd yn marw, y bu farw Abner?
34. Dy ddwylo nid oeddynt yn rhwym, ac nid oedd dy draed wedi eu rhoddi mewn egwydydd: syrthiaist fel y syrthiai un o flaen meibion anwir. A'r holl bobl a chwanegasant wylo amdano ef.