2 Samuel 23:8-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Dyma enwau y cedyrn oedd gan Dafydd. Y Tachmoniad a eisteddai yn y gadair, yn bennaeth y tywysogion; hwnnw oedd Adino yr Esniad: efe a ruthrodd yn erbyn wyth cant, y rhai a laddodd efe ar unwaith.

9. Ac ar ei ôl ef yr oedd Eleasar mab Dodo, mab Ahohi, ymhlith y tri chadarn, gyda Dafydd, pan ddifenwasant hwy y Philistiaid a ymgynullasent yno i ryfel, a phan aeth gwŷr Israel ymaith.

10. Efe a gyfododd, ac a drawodd ar y Philistiaid, nes diffygio ei law ef a glynu o'i law ef wrth y cleddyf: a'r Arglwydd a wnaeth iachawdwriaeth mawr y diwrnod hwnnw; a'r bobl a ddychwelasant ar ei ôl ef yn unig i anrheithio.

11. Ac ar ei ôl ef yr oedd Samma mab Age yr Harariad. A'r Philistiaid a ymgynullasent yn dorf; ac yr oedd yno ran o'r maes yn llawn o ffacbys: a'r bobl a ffodd o flaen y Philistiaid.

12. Ond efe a safodd yng nghanol y rhandir, ac a'i hachubodd, ac a laddodd y Philistiaid. Felly y gwnaeth yr Arglwydd ymwared mawr.

13. A thri o'r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant, ac a ddaethant y cynhaeaf at Dafydd i ogof Adulam: a thorf y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim.

14. A Dafydd oedd yna mewn amddiffynfa: a sefyllfa y Philistiaid ydoedd yna yn Bethlehem.

15. A blysiodd Dafydd, a dywedodd, Pwy a'm dioda i â dwfr o bydew Bethlehem, yr hwn sydd wrth y porth?

16. A'r tri chadarn a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a'i cymerasant hefyd, ac a'i dygasant at Dafydd: ond ni fynnai efe ei yfed, eithr efe a'i diodoffrymodd ef i'r Arglwydd;

17. Ac a ddywedodd, Na ato yr Arglwydd i mi wneuthur hyn; onid gwaed y gwŷr a aethant mewn enbydrwydd am eu heinioes yw hwn? Am hynny ni fynnai efe ei yfed. Hyn a wnaeth y tri chadarn hynny.

18. Ac Abisai brawd Joab, mab Serfia, oedd bennaf o'r tri. Ac efe a gyfododd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a'u lladdodd hwynt: ac iddo ef yr oedd yr enw ymhlith y tri.

2 Samuel 23