2 Samuel 22:44-48 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

44. Gwaredaist fi rhag cynhennau fy mhobl; cedwaist fi yn ben ar genhedloedd: pobl nid adnabûm a'm gwasanaethant.

45. Meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi: pan glywant, gwrandawant arnaf fi.

46. Meibion dieithr a ballant, ac a ddychrynant o'u carchardai.

47. Byw fyddo yr Arglwydd, a bendigedig fyddo fy nghraig; a dyrchafer Duw, craig fy iachawdwriaeth.

48. Duw sydd yn fy nial i, ac sydd yn darostwng pobloedd danaf fi,

2 Samuel 22