2 Samuel 22:35-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

35. Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllir bwa dur yn fy mreichiau.

36. Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; ac รข'th fwynder y lluosogaist fi.

37. Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy sodlau.

38. Erlidiais fy ngelynion, a difethais hwynt; ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.

39. Difeais hwynt hefyd, a thrywenais hwynt, fel na chyfodent; a hwy a syrthiasant dan fy nhraed i.

2 Samuel 22