2 Samuel 22:16-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Gwaelodion y môr a ymddangosodd, a seiliau y byd a ddinoethwyd, gan gerydd yr Arglwydd, a chan chwythad anadl ei ffroenau ef.

17. Efe a anfonodd oddi uchod: cymerodd fi; tynnodd fi o ddyfroedd lawer.

18. Gwaredodd fi rhag fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion; am eu bod yn drech na mi.

2 Samuel 22