6. Rhodder i ni saith o wŷr o'i feibion ef, fel y crogom ni hwynt i'r Arglwydd yn Gibea Saul, dewisedig yr Arglwydd. A dywedodd y brenin, Myfi a'u rhoddaf.
7. Ond y brenin a arbedodd Meffiboseth, mab Jonathan, mab Saul, oherwydd llw yr Arglwydd yr hwn oedd rhyngddynt hwy, rhwng Dafydd a Jonathan mab Saul.
8. Ond y brenin a gymerth ddau fab Rispa merch Aia, y rhai a ymddûg hi i Saul, sef Armoni a Meffiboseth; a phum mab Michal merch Saul, y rhai a blantodd hi i Adriel mab Barsilai y Maholathiad:
9. Ac efe a'u rhoddes hwynt yn llaw y Gibeoniaid; a hwy a'u crogasant hwy yn y mynydd gerbron yr Arglwydd: a'r saith hyn a gydgwympasant, ac a roddwyd i farwolaeth yn y dyddiau cyntaf o'r cynhaeaf, yn nechreuad cynhaeaf yr haidd.
10. A Rispa merch Aia a gymerth sachliain, a hi a'i hestynnodd ef iddi ar y graig, o ddechrau y cynhaeaf nes diferu dwfr arnynt hwy o'r nefoedd, ac ni adawodd hi i ehediaid y nefoedd orffwys arnynt hwy y dydd, na bwystfil y maes liw nos.
11. A mynegwyd i Dafydd yr hyn a wnaethai Rispa merch Aia, gordderchwraig Saul.
12. A Dafydd a aeth ac a ddug esgyrn Saul, ac esgyrn Jonathan ei fab, oddi wrth berchenogion Jabes Gilead, y rhai a'u lladratasent hwy o heol Beth‐sar yr hon y crogasai y Philistiaid hwynt ynddi, y dydd y lladdodd y Philistiaid Saul yn Gilboa.
13. Ac efe a ddug i fyny oddi yno esgyrn Saul, ac esgyrn Jonathan ei fab: a hwy a gasglasant esgyrn y rhai a grogasid.