13. Ac efe a ddug i fyny oddi yno esgyrn Saul, ac esgyrn Jonathan ei fab: a hwy a gasglasant esgyrn y rhai a grogasid.
14. A hwy a gladdasant esgyrn Saul a Jonathan ei fab yng ngwlad Benjamin, yn Sela, ym meddrod Cis ei dad: a hwy a wnaethant yr hyn oll a orchmynasai y brenin. A bu Duw fodlon i'r wlad ar ôl hyn.
15. A bu eilwaith ryfel rhwng y Philistiaid ac Israel; a Dafydd a aeth i waered a'i weision gydag ef, ac a ymladdasant â'r Philistiaid. A diffygiodd Dafydd.
16. Ac Isbi‐benob, yr hwn oedd o feibion y cawr, (a phwys ei waywffon yn dri chan sicl o bres,) ac wedi ei wregysu â chleddyf newydd, a feddyliodd ladd Dafydd.
17. Ond Abisai mab Serfia a'i helpiodd ef, ac a drawodd y Philistiad, ac a'i lladdodd ef. Yna gwŷr Dafydd a dyngasant wrtho ef, gan ddywedyd, Nid ei di allan mwyach gyda ni i ryfel, rhag i ti ddiffoddi goleuni Israel.
18. Ac ar ôl hyn fe fu eilwaith ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid: yna Sibbechai yr Husathiad a laddodd Saff, yr hwn oedd o feibion y cawr.
19. A bu eto ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid: ac Elhanan mab Jaareoregim, y Bethlehemiad, a drawodd frawd Goleiath y Gethiad; a phren ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd.
20. A bu eto ryfel yn Gath: ac yr oedd gŵr corffol, a chwech o fysedd ar bob llaw iddo, a chwech o fysedd ar bob troed iddo, pedwar ar hugain o rifedi; efe hefyd oedd fab i'r cawr.
21. Ac efe a amharchodd Israel; a Jonathan mab Simea, brawd Dafydd, a'i lladdodd ef.
22. Y pedwar hyn a aned i'r cawr yn Gath, ac a gwympasant trwy law Dafydd, a thrwy law ei weision ef.