2 Samuel 20:6-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A dywedodd Dafydd wrth Abisai, Seba mab Bichri a'n dryga ni yn waeth nag Absalom: cymer di weision dy arglwydd, ac erlid ar ei ôl ef, rhag iddo gael y dinasoedd caerog, ac ymachub o'n golwg ni.

7. A gwŷr Joab, a'r Cerethiaid, y Pelethiaid hefyd, a'r holl gedyrn, a aethant ar ei ôl ef; ac a aethant allan o Jerwsalem, i erlid ar ôl Seba mab Bichri.

8. Pan oeddynt hwy wrth y maen mawr sydd yn Gibeon, Amasa a aeth o'u blaen hwynt. A Joab oedd wedi gwregysu ei gochl oedd amdano, ac arni yr oedd gwregys â chleddyf wedi ei rwymo ar ei lwynau ef yn ei wain; a phan gerddai efe, y cleddyf a syrthiai.

9. A dywedodd Joab wrth Amasa, A wyt ti yn llawen, fy mrawd? A llaw ddeau Joab a ymaflodd ym marf Amasa i'w gusanu ef.

10. Ond ni ddaliodd Amasa ar y cleddyf oedd yn llaw Joab: felly efe a'i trawodd ef ag ef dan y bumed ais, ac a ollyngodd ei berfedd ef i'r llawr, ac nid aildrawodd ef: ac efe a fu farw. Felly Joab ac Abisai ei frawd a ganlynodd ar ôl Seba mab Bichri.

11. Ac un o weision Joab oedd yn sefyll yn ei ymyl ef, ac a ddywedodd, Pwy bynnag a ewyllysio yn dda i Joab, a phwy bynnag sydd gyda Dafydd, eled ar ôl Joab.

12. Ac Amasa oedd yn ymdrybaeddu mewn gwaed yng nghanol y briffordd. A phan welodd y gŵr yr holl bobl yn sefyll, efe a symudodd Amasa oddi ar y briffordd i'r maes, ac a daflodd gadach arno, pan welodd efe bawb a'r oedd yn dyfod ato ef yn sefyll.

2 Samuel 20