2 Samuel 20:10-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Ond ni ddaliodd Amasa ar y cleddyf oedd yn llaw Joab: felly efe a'i trawodd ef ag ef dan y bumed ais, ac a ollyngodd ei berfedd ef i'r llawr, ac nid aildrawodd ef: ac efe a fu farw. Felly Joab ac Abisai ei frawd a ganlynodd ar ôl Seba mab Bichri.

11. Ac un o weision Joab oedd yn sefyll yn ei ymyl ef, ac a ddywedodd, Pwy bynnag a ewyllysio yn dda i Joab, a phwy bynnag sydd gyda Dafydd, eled ar ôl Joab.

12. Ac Amasa oedd yn ymdrybaeddu mewn gwaed yng nghanol y briffordd. A phan welodd y gŵr yr holl bobl yn sefyll, efe a symudodd Amasa oddi ar y briffordd i'r maes, ac a daflodd gadach arno, pan welodd efe bawb a'r oedd yn dyfod ato ef yn sefyll.

13. Pan symudwyd ef oddi ar y briffordd, yr holl wŷr a aethant ar ôl Joab, i erlid ar ôl Seba mab Bichri.

14. Ac efe a dramwyodd trwy holl lwythau Israel i Abel, ac i Beth‐maacha, ac i holl leoedd Berim: a hwy a ymgasglasant, ac a aethant ar ei ôl ef.

15. Felly y daethant hwy, ac a warchaeasant arno ef yn Abel Beth‐maacha, ac a fwriasant glawdd yn erbyn y ddinas, yr hon a safodd ar y rhagfur: a'r holl bobl y rhai oedd gyda Joab oedd yn curo'r mur, i'w fwrw i lawr.

16. Yna gwraig ddoeth o'r ddinas a lefodd, Clywch, clywch: dywedwch, atolwg, wrth Joab, Nesâ hyd yma, fel yr ymddiddanwyf â thi.

17. Pan nesaodd efe ati hi, y wraig a ddywedodd, Ai ti yw Joab? Dywedodd yntau, Ie, myfi. A hi a ddywedodd wrtho ef, Gwrando eiriau dy lawforwyn. Dywedodd yntau, Yr ydwyf yn gwrando.

18. Yna hi a ddywedodd, Hwy a lefarent gynt, gan ddywedyd, Diau yr ymofynnant ag Abel: ac felly y dibennent.

2 Samuel 20