2 Samuel 2:21-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. A dywedodd Abner wrtho ef, Tro ar dy law ddeau, neu ar dy law aswy, a dal i ti un o'r llanciau, a chymer i ti ei arfau ef. Ond ni fynnai Asahel droi oddi ar ei ôl ef.

22. Ac Abner a ddywedodd eilwaith wrth Asahel, Cilia oddi ar fy ôl i: paham y trawaf di i lawr? canys pa fodd y codwn fy ngolwg ar Joab dy frawd di wedi hynny?

23. Ond efe a wrthododd ymado. Am hynny Abner a'i trawodd ef â bôn y waywffon dan y bumed ais, a'r waywffon a aeth allan o'r tu cefn iddo; ac efe a syrthiodd yno, ac a fu farw yn ei le: a phawb a'r oedd yn dyfod i'r lle y syrthiasai Asahel ynddo, ac y buasai farw, a safasant.

24. Joab hefyd ac Abisai a erlidiasant ar ôl Abner: pan fachludodd yr haul, yna y daethant hyd fryn Amma, yr hwn sydd gyferbyn â Gia, tuag anialwch Gibeon.

25. A meibion Benjamin a ymgasglasant ar ôl Abner, ac a aethant yn un fintai, ac a safasant ar ben bryn.

26. Yna Abner a alwodd ar Joab, ac a ddywedodd, Ai byth y difa y cleddyf? oni wyddost ti y bydd chwerwder yn y diwedd? hyd ba bryd gan hynny y byddi heb ddywedyd wrth y bobl am ddychwelyd oddi ar ôl eu brodyr?

27. A dywedodd Joab, Fel mai byw Duw, oni buasai yr hyn a ddywedaist, diau yna y bore yr aethai y bobl i fyny, bob un oddi ar ôl ei frawd.

28. Felly Joab a utganodd mewn utgorn; a'r holl bobl a safasant, ac nid erlidiasant mwyach ar ôl Israel, ac ni chwanegasant ymladd mwyach.

29. Ac Abner a'i wŷr a aethant trwy'r gwastadedd ar hyd y nos honno, ac a aethant dros yr Iorddonen, ac a aethant trwy holl Bithron, a daethant i Mahanaim.

30. A Joab a ddychwelodd oddi ar ôl Abner: ac wedi iddo gasglu'r holl bobl ynghyd, yr oedd yn eisiau o weision Dafydd bedwar gŵr ar bymtheg, ac Asahel.

31. A gweision Dafydd a drawsent o Benjamin, ac o wŷr Abner, dri chant a thrigain gŵr, fel y buant feirw.

32. A hwy a gymerasant Asahel, ac a'i claddasant ef ym meddrod ei dad, yr hwn oedd ym Methlehem. A Joab a'i wŷr a gerddasant ar hyd y nos, ac yn Hebron y goleuodd arnynt.

2 Samuel 2