2 Samuel 19:38-43 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

38. A dywedodd y brenin, Chimham a â gyda mi, a mi a wnaf iddo ef yr hyn fyddo da yn dy olwg di: a pheth bynnag a erfyniech di arnaf fi, mi a'i gwnaf erot.

39. A'r holl bobl a aethant dros yr Iorddonen. Y brenin hefyd a aeth drosodd: a'r brenin a gusanodd Barsilai, ac a'i bendithiodd ef; ac efe a ddychwelodd i'w fangre ei hun.

40. Yna y brenin a aeth i Gilgal, a Chimham a aeth gydag ef. A holl bobl Jwda a hebryngasant y brenin, a hanner pobl Israel hefyd.

41. Ac wele, holl wŷr Israel a ddaethant at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Paham y lladrataodd ein brodyr ni, gwŷr Jwda, dydi, ac y dygasant y brenin a'i dylwyth dros yr Iorddonen, a holl wŷr Dafydd gydag ef?

42. Ac atebodd holl wŷr Jwda i wŷr Israel, Oblegid câr agos yw y brenin i ni: paham gan hynny y digiasoch chwi am y peth hyn? a fwytasom ni ddim ar draul y brenin? neu a anrhegodd efe ni ag anrheg?

43. A gwŷr Israel a atebasant wŷr Jwda, ac a ddywedasant, Deg rhan sydd i ni yn y brenin; hefyd y mae i ni yn Dafydd fwy nag i chwi: paham gan hynny y diystyraist fi? onid myfi a ddywedais yn gyntaf am gyrchu adref fy mrenin? Ac ymadrodd gwŷr Jwda oedd galetach nag ymadrodd gwŷr Israel.

2 Samuel 19