2 Samuel 19:23-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. A'r brenin a ddywedodd wrth Simei, Ni byddi di farw: a'r brenin a dyngodd wrtho ef.

24. Meffiboseth mab Saul hefyd a ddaeth i waered i gyfarfod â'r brenin; ac ni olchasai efe ei draed, ac ni thorasai ei farf, ac ni olchasai ei ddillad, er y dydd yr aethai'r brenin hyd y dydd y daeth efe drachefn mewn heddwch.

25. A phan ddaeth efe i Jerwsalem i gyfarfod â'r brenin, yna y dywedodd y brenin wrtho ef, Paham nad aethost ti gyda mi, Meffiboseth?

26. Ac efe a ddywedodd, Fy arglwydd frenin, fy ngwas a'm twyllodd i: canys dywedodd dy was, Cyfrwyaf i mi asyn, fel y marchogwyf arno, ac yr elwyf at y brenin; oherwydd cloff yw dy was.

27. Ac efe a enllibiodd dy was wrth fy arglwydd frenin; ond fy arglwydd frenin sydd fel angel Duw: am hynny gwna yr hyn fyddo da yn dy olwg.

28. Canys nid oedd holl dŷ fy nhad i ond dynion meirw gerbron fy arglwydd y brenin; eto tydi a osodaist dy was ymhlith y rhai oedd yn bwyta ar dy fwrdd dy hun: pa gyfiawnder gan hynny sydd i mi bellach i weiddi mwy ar y brenin?

29. A'r brenin a ddywedodd wrtho, I ba beth yr adroddi dy faterion ymhellach? dywedais, Ti a Siba rhennwch y tir.

30. A Meffiboseth a ddywedodd wrth y brenin, Ie, cymered efe y cwbl, gan ddyfod fy arglwydd frenin i'w dŷ mewn heddwch.

31. A Barsilai y Gileadiad a ddaeth i waered o Rogelim, ac a aeth dros yr Iorddonen gyda'r brenin, i'w hebrwng ef dros yr Iorddonen.

32. A Barsilai oedd hen iawn, yn fab pedwar ugain mlwydd: efe oedd yn darparu lluniaeth i'r brenin tra yr ydoedd efe ym Mahanaim; canys gŵr mawr iawn oedd efe.

33. A'r brenin a ddywedodd wrth Barsilai, Tyred drosodd gyda mi, a mi a'th borthaf di gyda mi yn Jerwsalem.

34. A Barsilai a ddywedodd wrth y brenin, Pa faint yw dyddiau blynyddoedd fy einioes i, fel yr elwn i fyny gyda'r brenin i Jerwsalem?

35. Mab pedwar ugain mlwydd ydwyf fi heddiw: a wn i ragoriaeth rhwng da a drwg? a ddichon dy was di archwaethu yr hyn a fwytâf, neu yr hyn a yfaf? a glywaf fi bellach lais cerddorion a cherddoresau? paham gan hynny y bydd dy was mwyach yn faich ar fy arglwydd frenin?

36. Dy was a â ychydig tu hwnt i'r Iorddonen gyda'r brenin: a phaham y talai y brenin i mi gyfryw daledigaeth?

37. Gad, atolwg, i'th was ddychwelyd yn fy ôl, fel y byddwyf marw yn fy ninas fy hun, ac fel y'm cladder ym meddrod fy nhad a'm mam: ac wele, Chimham dy was, efe a â drosodd gyda'm harglwydd frenin, a gwna iddo yr hyn fyddo da yn dy olwg.

2 Samuel 19