2 Samuel 19:14-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Ac efe a drodd galon holl wŷr Jwda, fel calon un gŵr: a hwy a anfonasant at y brenin, gan ddywedyd, Dychwel di a'th holl weision.

15. Felly y brenin a ddychwelodd, ac a ddaeth i'r Iorddonen. A Jwda a ddaeth i Gilgal, i fyned i gyfarfod â'r brenin, i ddwyn y brenin dros yr Iorddonen.

16. A Simei mab Gera, mab Jemini, yr hwn oedd o Bahurim, a frysiodd, ac a ddaeth i waered gyda gwŷr Jwda, i gyfarfod â'r brenin Dafydd.

17. A mil o wŷr o Benjamin oedd gydag ef; Siba hefyd gwas tŷ Saul, a'i bymtheng mab a'i ugain gwas gydag ef: a hwy a aethant dros yr Iorddonen o flaen y brenin.

18. Ac ysgraff a aeth drosodd i ddwyn trwodd dylwyth y brenin, ac i wneuthur yr hyn fyddai da yn ei olwg ef. A Simei mab Gera a syrthiodd gerbron y brenin, pan ddaeth efe dros yr Iorddonen;

19. Ac a ddywedodd wrth y brenin, Na ddanoded fy arglwydd i mi anwiredd, ac na chofia yr hyn a wnaeth dy was yn anwir y dydd yr aeth fy arglwydd frenin o Jerwsalem, i osod o'r brenin hynny at ei galon.

20. Canys dy was sydd yn cydnabod bechu ohonof fi: ac wele, deuthum heddiw yn gyntaf o holl dŷ Joseff, i ddyfod i waered i gyfarfod â'm harglwydd frenin.

21. Ac Abisai mab Serfia a atebodd, ac a ddywedodd, Ai oherwydd hyn ni roddir Simei i farwolaeth, am iddo felltithio eneiniog yr Arglwydd?

22. A dywedodd Dafydd, Beth sydd i mi a wnelwyf â chwi, meibion Serfia, fel y byddech i mi yn wrthwynebwyr heddiw? a roddir i farwolaeth heddiw neb yn Israel? canys oni wn i, mai heddiw yr ydwyf fi yn frenin ar Israel?

23. A'r brenin a ddywedodd wrth Simei, Ni byddi di farw: a'r brenin a dyngodd wrtho ef.

2 Samuel 19