1. Amynegwyd i Joab, Wele y brenin yn wylo, ac yn galaru am Absalom.
2. A'r fuddugoliaeth a aeth y dwthwn hwnnw yn alar i'r holl bobl: canys clywodd y bobl y diwrnod hwnnw ddywedyd, dristáu o'r brenin am ei fab.
3. A'r bobl a aethant yn lladradaidd y diwrnod hwnnw i mewn i'r ddinas, fel pobl a fyddai yn myned yn lladradaidd wedi eu cywilyddio wrth ffoi o ryfel.
4. Ond y brenin a orchuddiodd ei wyneb; a'r brenin a waeddodd â llef uchel, O fy mab Absalom, Absalom, fy mab, fy mab!
5. A Joab a ddaeth i mewn i'r tŷ at y brenin, ac a ddywedodd, Gwaradwyddaist heddiw wynebau dy holl weision, y rhai a amddiffynasant dy einioes di heddiw, ac einioes dy feibion a'th ferched, ac einioes dy wragedd, ac einioes dy ordderchwragedd;
6. Gan garu dy gaseion, a chasáu dy garedigion: canys dangosaist heddiw nad oedd ddim gennyt dy dywysogion, na'th weision: oherwydd mi a wn heddiw, pe Absalom fuasai byw, a ninnau i gyd yn feirw heddiw, mai da fuasai hynny yn dy olwg di.
7. Cyfod yn awr gan hynny, cerdda allan, a dywed yn deg wrth dy weision: canys yr wyf fi yn tyngu i'r Arglwydd, os ti nid ei allan, nad erys neb gyda thi y nos hon; a gwaeth fydd hyn i ti na'r holl ddrwg a ddaeth i'th erbyn di o'th febyd hyd yr awr hon.
8. Yna y brenin a gyfododd, ac a eisteddodd yn y porth. A mynegwyd i'r holl bobl, gan ddywedyd, Wele y brenin yn eistedd yn y porth. A'r holl bobl a ddaethant o flaen y brenin: canys Israel a ffoesai bob un i'w babell.
9. Ac yr oedd yr holl bobl yn ymryson trwy holl lwythau Israel, gan ddywedyd, Y brenin a'n gwaredodd ni o law ein gelynion, ac efe a'n gwaredodd ni o law y Philistiaid; ac yn awr efe a ffodd o'r wlad rhag Absalom.
10. Ac Absalom, yr hwn a eneiniasom ni arnom, a fu farw mewn rhyfel: ac yn awr paham yr ydych heb sôn am gyrchu y brenin drachefn?