6. Felly yr aeth y bobl i'r maes i gyfarfod Israel: a'r rhyfel fu yng nghoed Effraim.
7. Ac yno y lladdwyd pobl Israel o flaen gweision Dafydd: ac yno y bu lladdfa fawr y dwthwn hwnnw, sef ugain mil.
8. Canys y rhyfel oedd yno wedi gwasgaru ar hyd wyneb yr holl wlad: a'r coed a ddifethodd fwy o'r bobl nag a ddifethodd y cleddyf y diwrnod hwnnw.
9. Ac Absalom a gyfarfu รข gweision Dafydd yn eu hwyneb. Ac Absalom oedd yn marchogaeth ar ful, a'r mul a aeth dan dewfrig derwen fawr, a'i ben ef a lynodd yn y dderwen: felly yr oedd efe rhwng y nefoedd a'r ddaear; a'r mul oedd dano ef a aeth ymaith.
10. A rhyw un a ganfu hynny, ac a fynegodd i Joab, ac a ddywedodd, Wele, gwelais Absalom ynghrog mewn derwen.