23. Ond beth bynnag a fyddo, eb efe, gad i mi redeg. A dywedodd yntau wrtho, Rhed. Felly Ahimaas a redodd ar hyd y gwastadedd, ac a aeth heibio i Cusi.
24. A Dafydd oedd yn eistedd rhwng y ddau borth: a'r gwyliedydd a aeth ar nen y porth ar y mur, ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele ŵr yn rhedeg ei hunan.
25. A'r gwyliedydd a waeddodd, ac a fynegodd i'r brenin. A'r brenin a ddywedodd, Os ei hun y mae efe, cenadwriaeth sydd yn ei enau ef. Ac efe a ddaeth yn fuan, ac a nesaodd.
26. A'r gwyliedydd a ganfu ŵr arall yn rhedeg: a'r gwyliedydd a alwodd ar y porthor, ac a ddywedodd, Wele ŵr arall yn rhedeg ei hunan. A dywedodd y brenin, Hwn hefyd sydd gennad.
27. A'r gwyliedydd a ddywedodd, Yr ydwyf fi yn gweled rhediad y blaenaf fel rhediad Ahimaas mab Sadoc. A dywedodd y brenin, Gŵr da yw hwnnw, ac â chenadwriaeth dda y daw efe.
28. Ac Ahimaas a alwodd, ac a ddywedodd wrth y brenin, Heddwch: ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a warchaeodd ar y gwŷr a gyfodasant eu llaw yn erbyn fy arglwydd frenin.
29. A'r brenin a ddywedodd, Ai dihangol y llanc Absalom? A dywedodd Ahimaas, Gwelais gythrwfl mawr, pan anfonodd Joab was y brenin, a'th was dithau, ond ni wybûm i beth ydoedd.
30. A'r brenin a ddywedodd, Tro heibio; saf yma. Ac efe a drodd heibio, ac a safodd.